Cofnodi Ymwelwyr Ysgol
Dull modern, diogel, di-bapur ac effeithiol ar gyfer cofrestru ymwelwyr â’ch ysgol.
Mae Gwasanaeth Dysgu Digidol wedi datblygu system ddigidol ddwyieithog arloesol i gofnodi ymwelwyr â’ch ysgol mewn proses ddiogel, syml a chyflym. Mae’r system ar gael fel app gwe flaengar (Progressive Web App), a gellir ei gosod ar iPad ar stondin yn y dderbynfa, neu unrhyw ddyfais sydd â phorwr.
Dewis diogel i gymryd lle llyfrau ymwelwyr. Gellir cofnodi symudiad pobl ar y safle gan ddefnyddio’r dewis modern hwn.
Gellir creu ffurflenni gwahanol i wahanol fathau o ymwelwyr. Mae’r meysydd yn gwbl addasadwy – byddwn yn creu’r ffurflenni gyda’r meysydd yn ôl eich gofynion! Gallwn hefyd ddiwygio’r telerau ac amodau yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cytuno i unrhyw delerau ac amodau penodol ar gyfer eich ysgol.
Mae trosolwg byw o’r holl ymwelwyr ar gael i weinyddwyr drwy’r dashfwrdd gweinyddol. Gallwch weld y dashfwrdd gweinyddol drwy’r we (mynediad o unrhyw le). Yma, gall ymwelwyr gael eu logio i mewn/allan gan y gweinyddwr.
Nodweddion
Teilwra ffurflenni i ddiben eich ysgol
Ffurflenni gwahanol i wahanol fathau o ymwelwyr
Dashfwrdd gweinyddol, fel fod modd gweld pwy sydd i fewn / allan ar unrhyw bryd.
iPad a Stondin
Cofnodi’n ddi-gyswllt drwy ddefnyddio ffôn clyfar a chod QR
Ychwanegu eich logo / addasu’r lliwiau
Cost
Ysgolion Gwynedd: £80.17 + TAW y flwyddyn*
Ysgolion eraill: £122.92 + TAW y flwyddyn*
Cysylltwch â Gwasanaeth Dysgu Digidol ar info@gwasanaethdysgudigidol.cymru am wybodaeth bellach.
* * Costau wedi ei selio ar gostau blwyddyn ariannol 2022/23.
Mae costau ychwanegol am gael lliwiau / logo eich hysgol.
Noder y bydd angen caledwedd yn ychwanegol.