Teilwra ffurflenni i ddiben eich ysgol
Gellir creu ffurflenni gwahanol i wahanol fathau o ymwelwyr. Mae’r meysydd yn gwbl addasadwy – byddwn yn creu’r ffurflenni gyda’r meysydd yn ôl eich gofynion! Gallwn hefyd ddiwygio’r telerau ac amodau yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cytuno i unrhyw delerau ac amodau penodol ar gyfer eich ysgol.
![ipad_dyffrynogwen_03](https://info.ymwelwyrysgol.cymru/wp-content/uploads/2020/08/ipad_dyffrynogwen_03.jpg)
iPad a Stondin
Bydd y system yn rhedeg ar unrhyw ddyfais sydd â phorwr, ond am y profiad gorau i’ch ymwelwyr, rydym yn argymell iPad a stondin (y gellir ei brynu yn uniongyrchol o CYNNAL).
Bydd y system yn rhedeg ar unrhyw ddyfais sydd â phorwr, ond am y profiad gorau i’ch ymwelwyr, rydym yn argymell iPad a stondin (y gellir ei brynu yn uniongyrchol o CYNNAL).
![2](https://info.ymwelwyrysgol.cymru/wp-content/uploads/2020/06/2.jpg)
![hand use smart phone on blurred photo of supermarket shelf back](https://info.ymwelwyrysgol.cymru/wp-content/uploads/2020/08/qr_code_03-1.jpg)
Cofnodi’n ddi-gyswllt
Gellir cofnodi ymwelwyr yn ddi-gyswllt drwy ddefnyddio ffôn clyfar a chod QR.
- Dewis diogel di-gyffwrdd
- Osgoi tagfeydd yn y dderbynfa
- Dim angen i’ch ymwelwyr lawrlwytho app
Ychwanegu eich logo / addasu’r lliwiau
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth (codir ffi unwaith yn unig o £74*) i ddiwygio edrychiad y system i bersonoli’r system i’ch ysgol benodol, drwy ddefnyddio logo a chynllun lliwiau eich ysgol.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth (codir ffi unwaith yn unig o £74*) i ddiwygio edrychiad y system i bersonoli’r system i’ch ysgol benodol, drwy ddefnyddio logo a chynllun lliwiau eich ysgol.
* Costau wedi ei selio ar gostau blwyddyn ariannol 2020/21.
![ipad_iphone_dyffryn_ogwen](https://info.ymwelwyrysgol.cymru/wp-content/uploads/2020/08/ipad_iphone_dyffryn_ogwen.png)