Teilwra ffurflenni i ddiben eich ysgol
Gellir creu ffurflenni gwahanol i wahanol fathau o ymwelwyr. Mae’r meysydd yn gwbl addasadwy – byddwn yn creu’r ffurflenni gyda’r meysydd yn ôl eich gofynion! Gallwn hefyd ddiwygio’r telerau ac amodau yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cytuno i unrhyw delerau ac amodau penodol ar gyfer eich ysgol.

 

 

 

Dashboard gweinyddol
Mae trosolwg byw o’r holl ymwelwyr ar gael i weinyddwyr drwy’r dashfwrdd gweinyddol.

  • Mynediad drwy’r we
  • Gallu cofnodi ymwelwyr i fewn / allan drosdynt
  • Gweld data hanesyddol
  • Gellir lawrlwytho adroddiadau fel ffeiliau Microsoft Excel
iPad a Stondin
Bydd y system yn rhedeg ar unrhyw ddyfais sydd â phorwr, ond am y profiad gorau i’ch ymwelwyr, rydym yn argymell iPad a stondin (y gellir ei brynu yn uniongyrchol o CYNNAL).

 

 

 

 

Cofnodi’n ddi-gyswllt
Gellir cofnodi ymwelwyr yn ddi-gyswllt drwy ddefnyddio ffôn clyfar a chod QR.

  • Dewis diogel di-gyffwrdd
  • Osgoi tagfeydd yn y dderbynfa
  • Dim angen i’ch ymwelwyr lawrlwytho app
Ychwanegu eich logo / addasu’r lliwiau
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth (codir ffi unwaith yn unig o £74*) i ddiwygio edrychiad y system i bersonoli’r system i’ch ysgol benodol, drwy ddefnyddio logo a chynllun lliwiau eich ysgol.

* Costau wedi ei selio ar gostau blwyddyn ariannol 2020/21.